Iwan Rees – Tafodieithegydd

Cyhoeddwyd yn Uncategorized | Rhowch sylw

Tafodiaith Ysgolion

Cyhoeddwyd yn Uncategorized | Rhowch sylw

Y Bala

Cyhoeddwyd yn Uncategorized | Rhowch sylw

Iaith, amaeth, mecanyddiaeth, Mart y Bala

Cyhoeddwyd yn Uncategorized | Rhowch sylw

Yr ‘a’ fain..

Pryd ddaeth yr “a” fain mewn i’r Gymraeg? (Yr arfer o ddweud “bêch” yn lle “bach”, neu “têd” yn lle “tad”, rhywbeth sy’n gyffredin ar draws Maldwyn a Meirionydd heddiw ac yn nwyrain Morgannwg gynt) Awgrymodd y tafodieithegydd Thomas Darlington fod hyn yn rhywbeth cymharol ddiweddar oedd hyn, yn ystod y 2-300 mlynedd ddiwethaf. Yn sicr, mae wedi digwydd yn y De Ddwyrain ar ôl i newidiadau seinegol eraill ddigwydd yn gyntaf. Er enghraifft, fyddai’r frawddeg “Mae’r saer maen yn yfed llaeth” ddim yn troi yn “Mê’r sêr mên yn ifad llêth” oherwydd dyw “ae” ddim yn gallu troi’n “a” fain –  “a” hir sy’n troi’n “a” fain. Mae’n rhaid fod y frawddeg wedi newid yn gyntaf ar lafar i “mâ’r sâr mân yn ifad llâth”; yna roedd y newid i’r “a” fain yn bosib.

Cyhoeddwyd yn Uncategorized | 2 Sylw

‘Hawdd cneifio dafad grebi…?!’

Ifor ap Glyn, ‘A finnau’n pori trwy ddywediadau Cymraeg, mi ddois i ar draws yr uchod.

Yn ol Geiriadur Prifysgol Cymru, ystyr ‘crebi’ yw ‘dafad a gollodd ei gwlân wrth ymwthio drwy ddrain’ ac maen nhw’n rhoi dywediad tebyg sef ‘hawdd yw eillio pen moel a chneifio crebi’.

Dywed Iwan Wyn Rees, sy’n astudio/ymchwilio tuag at doethuriaeth yn y maes tafodieithyddol – ‘Elfennau’r gair ydy ‘crab’ + ‘-i’, ac mae ‘crab’ yn deillio o’r Saesneg ac yn golygu ‘afal sur bach’, ond mae enghreifftiau o ‘crab’ yn cael ei ddefnyddio’n Gymraeg i gyfeirio at ddyn sur. Felly syniad o ddafad wedi suro sydd wrth wraidd y gair.’

Mae GPC yn lleoli ‘dafad grebi’ yng ngogledd-ddwyrain Sir Gâr ar y ffin efo Sir Frycheiniog….unrhyw un dal i’w ddefnyddio ‘sgwn’i?!’

Cyhoeddwyd yn Uncategorized | 1 Sylw

David Crystal – y Gymraeg a’r we

Cyhoeddwyd yn Uncategorized | 2 Sylw