Beth yw Ar Lafar?

Dwy gyfres am dafodieithoedd Cymru

Bob Nos Lun am 21:00 a 22:00 ar S4C (hefyd ar Clic wrth gwrs!)

Ar Lafar

Mae’r bardd a’r cyflwynydd Ifor ap Glyn ar drywydd ein tafodieithoedd ni, y Cymry. Mae’n cychwyn ei daith yng Nghaernarfon lle mae’r Cofis yn siarad iaith sy’n frith o eiriau unigryw – ‘giaman‘ am gath  – cyn ei ‘miglo‘ hi o na ar drywydd y ffin ieithyddol rhwng y gogledd a’r de.

Yna mae’n ceisio dod o hyd i’r man lle mae’r ‘oer’ yn troi’n ‘wer’, a ‘oes’ yn mynd yn ‘wes (neu’n ‘wes wes‘) sy’n dynodi ei fod wedi cyrraedd tywysogaeth ieithyddol Sir Benfro!

Draw yng Nghwm Rhymni, a hefyd yng Nghwm Tawe, mae’r trigolion yn caledi llafariaid – er enghraifft mae’r ‘d’ yn mynd yn ‘t’. ‘Oti’ yn lle ‘ydi’.

Ac mewn un rhaglen arbennig cawn weld faint o dafodieithoedd yr Oesoedd Canol y mae modd cael hyd iddynt drwy’r llawysgrifau sydd wedi goroesi.

Noson Ar Lafar

Cyfle i glywed mwy o dafodiaith wrth i rai o berfformwyr amlycaf Cymru berfformio yn nhafodiaith eu broydd genedigol.

Un Ymateb i Beth yw Ar Lafar?

  1. Dywedodd Stephen Owen Rule :

    ALLAN, FFOR’, FFERINS, AGETHOW (FO), SBIA AR HWNE/ARNOW (FO)

    Dyma’r termau a ddefnyddir yn lleol i mi, Coed-llai, Sir y Fflint

    Stephen Rule

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s