Yr ‘a’ fain..

Pryd ddaeth yr “a” fain mewn i’r Gymraeg? (Yr arfer o ddweud “bêch” yn lle “bach”, neu “têd” yn lle “tad”, rhywbeth sy’n gyffredin ar draws Maldwyn a Meirionydd heddiw ac yn nwyrain Morgannwg gynt) Awgrymodd y tafodieithegydd Thomas Darlington fod hyn yn rhywbeth cymharol ddiweddar oedd hyn, yn ystod y 2-300 mlynedd ddiwethaf. Yn sicr, mae wedi digwydd yn y De Ddwyrain ar ôl i newidiadau seinegol eraill ddigwydd yn gyntaf. Er enghraifft, fyddai’r frawddeg “Mae’r saer maen yn yfed llaeth” ddim yn troi yn “Mê’r sêr mên yn ifad llêth” oherwydd dyw “ae” ddim yn gallu troi’n “a” fain –  “a” hir sy’n troi’n “a” fain. Mae’n rhaid fod y frawddeg wedi newid yn gyntaf ar lafar i “mâ’r sâr mân yn ifad llâth”; yna roedd y newid i’r “a” fain yn bosib.

Cafodd y cofnod ei gyhoeddi yn Uncategorized. Gosod Nod Tudalen i'r ddolen barhaol.

2 Ymateb i Yr ‘a’ fain..

  1. Dywedodd Charles Adamson z :

    I†m going to just have to struggle through it until I get better at it and make a routine of it.

  2. Dywedodd Di-enw :

    Cwyn bach, ac efallai dwi’n bod yn rhy aniddig, ond pam cyfeirio i sir Morgannwg yn unig yn y rhaglen amdan y acen Wenhwyseg? Beth am y cymoedd hen sir Fynwy (ac tipyn bach o hen sir Frycheiniog)? Nad yw’r gair Wenhwyseg, hyd yn oed, yn meddwl iaith y pobl Gwent? Ambell waith mae’n teimlo fel bod y hen sir Fynwy yn cael ei anghofio ar bwrpas achos nad yw’r ardal yn ddigon “Cymraeg”. Trist.

Gadael sylw