‘Hawdd cneifio dafad grebi…?!’

Ifor ap Glyn, ‘A finnau’n pori trwy ddywediadau Cymraeg, mi ddois i ar draws yr uchod.

Yn ol Geiriadur Prifysgol Cymru, ystyr ‘crebi’ yw ‘dafad a gollodd ei gwlân wrth ymwthio drwy ddrain’ ac maen nhw’n rhoi dywediad tebyg sef ‘hawdd yw eillio pen moel a chneifio crebi’.

Dywed Iwan Wyn Rees, sy’n astudio/ymchwilio tuag at doethuriaeth yn y maes tafodieithyddol – ‘Elfennau’r gair ydy ‘crab’ + ‘-i’, ac mae ‘crab’ yn deillio o’r Saesneg ac yn golygu ‘afal sur bach’, ond mae enghreifftiau o ‘crab’ yn cael ei ddefnyddio’n Gymraeg i gyfeirio at ddyn sur. Felly syniad o ddafad wedi suro sydd wrth wraidd y gair.’

Mae GPC yn lleoli ‘dafad grebi’ yng ngogledd-ddwyrain Sir Gâr ar y ffin efo Sir Frycheiniog….unrhyw un dal i’w ddefnyddio ‘sgwn’i?!’

Advertisements
Cafodd y cofnod ei gyhoeddi yn Uncategorized. Gosod Nod Tudalen i'r ddolen barhaol.

Un Ymateb i ‘Hawdd cneifio dafad grebi…?!’

  1. Dywedodd Anna Nyman 7 :

    Gylp Ro n i n eitha ecseited ond wrth i r amser ddod yn nes, roedd fy stumog i n rhoi ambell i dro.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s