Rhowch faner las ar y map, eich enw ac o lle chi’n dod, yna rhowch eich geiriau am y canlynol yn y blwch:
OUT, ROAD, SWEETS, WITH HIM, LOOK AT THAT/HIM.
(I neud hyn cliciwch ar ‘View Larger Map’ sydd o dan y map isod, ar y chwith. Yna, yn y ffenest newydd a fydd yn agor, dylasech weld ‘Edit’ ar ben y ddalen ar y chwith. Pwyswch hwn. SYLWCH! Bydd angen cyfrif Google arnoch i allu gwneud hyn!)
Ffili rhoi placemarker ar y map – beth dwi i fod i wneud?
Helo, bydd angen cyfrif google arnot i allu olygu’r map. Wedi cael cyfrif google gwna hyn: clicia ar ‘View Larger Map’ sydd o dan y map ar y blog, yna, yn y ffenest newydd a fydd yn agor, cicia ‘Edit’ sydd ar ben y ddalen ar y chwith. Heb gyfrif google byddid di ddim yn gallu gweld ‘Edit.’
Methu rhoi placemarker ar y map – beth dwi i fod i wneud?
Helo, bydd angen cyfrif google arnot i allu olygu’r map. Wedi cael cyfrif google gwna hyn: clicia ar ‘View Larger Map’ sydd o dan y map ar y blog, yna, yn y ffenest newydd a fydd yn agor, cicia ‘Edit’ sydd ar ben y ddalen ar y chwith. Heb gyfrif google byddid di ddim yn gallu gweld ‘Edit.’
Dwi wedi rhoi un o Sir Gâr / Sir Benfro oherwydd ces i magu ar y ffin rhwng y ddau sir.
Angen mwy o Sir Benfro!
A ydi map o dafodieithoedd yn adlewyrchiad cywir o sut mae Cymry Cymraeg yn byw heddi?. Dwi wedi fy magu yn Nghaerdydd a Bangor (ac Aberystwyth am gyfnod). Ond mae’r geiriau tafodiaethol dwi’n ddefnyddio ar lafar yn adlewyrchu iaith fy rhieni ran fwyaf. Mae nhw o Gwm Tawe ond dwi erioed wedi byw yna. Dyw pobl ddim yn byw yn eu milltir sgwâr bellach felly ydi dylanwad magwraeth yn bwysicach na ‘ardal’?
Hwn yn bwynt da iawn. Falle nid map daearyddol o Gymru sydd ei angen? Neu’n hytrach map o Gymru wedi ei rhannu i mewn i dafodieithoedd ac yna tagio’n hunain o fewn talgylch y dafodiaith ni’n siarad er nad ydyn ni, efallai, wedi byw yna erioed.
Hysbysiad: Blogiau sy’n gysylltiedig â S4C | Hacio'r Iaith
Twll mawr yn y canolbarth, bobl bech!
Mae traddodiad maeth ym Maesyfed o guddio rhag ymchwilwyr ieithyddol! 😉
un cwestiwn, oes rhaid cael cyfrif google cyn i ti allu neud hyn?
Baswn i’n dychmygu oes, yn anffodus.
Mae’n gweithio rwan, ond yn fy mrwdfrydedd i gyfrannu, dw i wedi camsillafu ‘Fferins’ (teipiais ‘Ffeirins’) a ‘fo’ (teipiais ‘go’) Wps. Allwch chi ei olygu o – dw i ddim yn gallu gwneud?
Nai drio’i olygu nawr – doniol, o’n i’n meddwl bod ‘gyda go’ yn ddidddorol, erioed wedi clywed ‘go’ o’r blaen! Diolch am dy help.
@ Ar lafar
Agorwch y map ‘Ar Lafar – Tafodieithoedd Cymru’ yn GoogleMaps ac ar y chiwth, bydd opsiwn ‘Collaborate’ uwchben teitl y map. Agorith blwch bach gwyn, ac o dan y pennawd ‘Manage collaborators’, ticiwch y blwch ‘Allow anyone to edit this map’. Dylai pawb allu ei olygu wedyn.
Diolch Rhys, wedi gwneud! A dwi’n gweld dy fod ti wedi gallu addasu’r map – un cwestiwn, oes rhaid cael cyfrif google cyn i ti allu neud hyn?
Hmm, wrthi’n trio….
Dw i’n methu gwneud e. Does dim teclyn baner – angen troi’r peth ymlaen?
Syniad da.
‘Run peth fan hyn, oes ffordd o’i agor allan i’r cyhoedd ar y settings?
Diolch!