Meddai Ifor ap Glyn, “Un o’r anawsterau mawr wrth drio astudio tafodiaith ydi rhywbeth sy’n cael ei alw’n “observers paradox”. Peth naturiol inni i gyd, wrth siarad hefo rhywun dieithr, yw ceisio gwneud ein hunain yn ddealladwy – wedi’r cyfan, diben siarad yw cyfathrebu. Ond pan ddaw ymchwilydd tafodiaith ar y sîn, mae o, neu hithau, eisiau clywed yr holl bethau gwahanol sy’n gwneud tafodiaith yn arbennig – ond gall ei b/phresenoldeb lesteirio’r union beth mae am fod yn dyst iddo. Dyna ydi’r “observer’s paradox”.
Sut mae osgoi’r broblem? Un o’r ffyrdd gorau ydi techneg mae tafodieithegwyr yn galw “cyfaill cyfaill” – hynny yw, mynd i weld rhywun yn sgîl rhywun arall sy’n eu ‘nabod nhw yn barod. Felly yn lle mod i, fel gogleddwr, yn ceisio tynnu sgwrs dafodieithol hefo rhywun o sir Benfro dyweder, haws o lawer ydi mynd yn sgil rhywun o’r ardal; mae dau o’r un ardal yn fwy tebygol o ddefnyddio geiriau tafodieithol rhwng ei gilydd nag y basen nhw hefo rhywun dieithr fel fi – ac y gallwn i wedyn fel ymchwilydd, eistedd ar gyrion sgwrs a recordio’r cyfan.”
Cyfaill cyfaill. Gwych.
Eisiau bod yn dafodieithegwyr.