Dyw Ifor ddim mor siwr ag y mae Geraint yn y fideo, mai’r syniad o gochni ‘jam’ sydd wedi rhoi’r gair ‘jaman’ i drigolion Caernarfon. Yn hytrach, meddai, “Erstalwm roedd ‘jami’ yn golygu ‘lwcus’: “jammy beggar” ac yn y blaen. Ond ynghanol y nawdegau yng Nghaernarfon aeth i olygu rhywbeth negyddol. Tybed ai dan ddylanwad y gair “giami” oedd hynny? Pobl yn drysu fymryn rhwng dau air tebyg o ran sain?
Mae geiriau’n gallu newid eu hystyron. “Rhiw” yw “allt” yn y gogledd, ond “coed” yn y de – “llethr goediog” oedd ystyr y gair yn wreiddiol, a phobl y gogledd wedi cydio yn un agwedd o’r gair a phobl y de mewn agwedd arall.
Ac weithiau mae dau beth sy’n debyg o ran sain yn gallu ymgyfnewid. Clywir pobl yn ardal Caernarfon yn dweud “gofyn wrth” yn lle “gofyn i”. Tueddwn dalfyrru geiriau wrth siarad, a dywedwn “gofyn ‘ddo fo” a “duda ‘tho fo” yn lle “iddo fo” ac “wrtho fo”. Ychydig o wahaniaeth i’r glust sydd rhwng “ddo fo” a “tho fo” a sdim rhyfedd felly fod pobl y dechrau drysu rhwng y ddau arddodiad wrth siarad.
Tybed ai dyna sut y newidiodd ystyr ‘jami’? A hynny yn ei dro wedi rhoi ‘jaman’ inni? “
Ie, rydyn ni rili angen lot mwy o gynnwys o ansawdd ar y we agored – felly diolch yn fawr am y blog. Dw i’n licio fe hefyd.
Dw i’n erbyn y term old skool Rhys er dw i’n cytuno gyda phopeth eraill!
Wnes i erioed feddwl mai oherwydd wyneb coch/ cywilydd roedd y gair yn dod. Licio’r blog gyda llaw a diolch am ei greu – mae rhai ohonom yn old skool ac yn licio rhywbeth mwy maethlon na Twitter a Facebook 🙂 Falle bydd hyn yn cael ei grybwyll rhywbryd eto yn y gyfres, ond mae map difyr am y gwahanol eiriau am sweets i’w cael yma.